Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (180) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiynau 3, 13 a 15 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 10 a 13 i 15. Tynnwyd cwestiynau 11 a 12 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 9 a 1 3 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
Datganiad gan y Llywydd
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Aelodau, oherwydd y bydd y cynnig a ganlyn yn mynd gerbron yr Uchel Lys eleni, y byddai’r rheol ‘sub judice’, a amlinellir yn Rheol Sefydlog 13.15 yn gymwys i’r ddadl.
3 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) yr effaith andwyol y mae colli eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal Abertawe a’r cyffiniau;
b) yr effaith ddilynol y mae colli pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;
c) y bydd pum mlynedd wedi mynd heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn cael ei threfnu yn San Steffan; a
d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r ardal lle maent yn byw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
14 |
4 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
4 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter
Dechreuodd yr eitem am 15.27
NDM5429 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5430 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen frys i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
11 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.52
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.52
NDM5419 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rheoli diwygio lles
Sut y mae cynghorau lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i fudd-dal tai.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2014